A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet esbonio'r anghysondeb rhwng yr ymatebion i WQ92439 a WQ92580 o ran cyfanswm nifer y myfyrwyr sy'n astudio deintyddiaeth y tu allan i Gymru?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
| Wedi'i ateb ar 07/05/2024
Yn fy ymateb i WQ92580, ychwanegwyd y frawddeg gyntaf mewn camgymeriad. Fodd bynnag, er eglurder, ni allwn ddarparu dadansoddiad o ba awdurdod lleol yng Nghymru y daw y myfyrwyr oherwydd y niferoedd cymharol isel dan sylw.