WQ92594 (w) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau faint o fyfyrwyr o Gymru oedd yn eu blwyddyn gyntaf yn astudio deintyddiaeth yng Nghymru ar gyfer pob un o'r tair blynedd diwethaf ac o'r myfyrwyr rheiny o ba awdurdod lleol yng Nghymru oeddynt yn hanu?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 01/05/2024

Mae’r tabl canlynol yn cadarnhau nifer y myfyrwyr deintyddiaeth blwyddyn gyntaf o Gymru sydd wedi astudio yng Nghymru ym mhob un o’r tair blynedd diwethaf (2019/20 i 2021/22):                     

 

2019/20

2020/21

2021/22

Darparwyr Addysg Uwch yng Nghymru

20

10

20

Yn anffodus, ni allwn roi dadansoddiad sy’n dangos o ba awdurdod lleol y daw’r myfyrwyr hyn oherwydd y niferoedd cymharol isel. Byddai’r data yn golygu bod y ffigurau’n cael eu llethu (hy yn ymddangos fel seroau)

Nodiadau
 
Mae'r holl ffigurau'n seiliedig ar nifer y myfyrwyr sydd wedi cofrestru:
1. Yn y boblogaeth sy'n cofrestru mewn Addysg Uwch Safonol.
 
2. Sy'n hanu o Gymru
 
3. Yn astudio ar gwrs deintyddiaeth a reoleiddir gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol
 
4. Yn eu blwyddyn astudio gyntaf
 
5. Yn astudio ar gwrs ag unrhyw un o'r nodau canlynol:
 
a. Gradd cyn-gofrestru gyntaf gydag anrhydedd sy'n arwain at gael cymhwysedd i gofrestru i ymarfer gyda chorff rheoleiddio statudol milfeddygol neu iechyd a gofal cymdeithasol

b. Gradd gyffredin cyn-gofrestru gyntaf (heb anrhydedd) sy'n arwain at gael cymhwysedd i gofrestru i ymarfer gyda chorff rheoleiddio statudol milfeddygol neu iechyd a gofal cymdeithasol

c. Gradd feistr israddedig/ôl-radd integredig a addysgir ar y patrwm uwch/estynedig sy'n arwain at gael cymhwysedd i gofrestru i ymarfer gyda chorff rheoleiddio statudol milfeddygol neu iechyd a gofal cymdeithasol