A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet nodi'r gwaith y bydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud i greu dull gwrthrychol o allu sefydlu hyfywedd gosod llinellau trydan o dan ddaear, fel y cyfeirir ato ym Mholisi Cynllunio Cymru, mewn perthynas â cheisiadau cynllunio unigol?
I'w ateb gan: Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg