WQ92583 (w) Wedi’i gyflwyno ar 23/04/2024

Yn dilyn WQ92455, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau bod gwaith penodol yn digwydd i archwilio’r opsiynau ar gyfer sefydlu ysgol ddeintyddol yng ngogledd Cymru yn unol ag argymhelliad perthnasol Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, a gafodd ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 30/04/2024

Gallaf gadarnhau bod trafodaethau wedi’u cynnal ar lefel Gweinidogion a swyddogion ynglŷn ag uchelgais y Brifysgol i sefydlu ysgol ddeintyddol yn y Gogledd. Fel y dywedais yn fy ateb i WQ92455, rydym hefyd yn trafod â phartïon eraill sydd â diddordeb i nodi’r opsiwn gorau ar gyfer cynyddu capasiti hyfforddiant deintyddol. Rydym hefyd yn ystyried opsiynau i sicrhau lleoliadau allgymorth yn ardal y Gogledd ar gyfer myfyrwyr deintyddol yn eu pumed flwyddyn sy’n astudio yn Ysgol Ddeintyddol Caerdydd.