WQ92582 (w) Wedi’i gyflwyno ar 23/04/2024

Ymhellach i WQ92456 a WQ92457, wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau bod gofyn dewis Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu Loegr yn gyntaf ar system Oriel ac yna, os ydyw myfyrwyr yn llwyddiannus i un o’r gwledydd hynny, eu bod wedyn yn dewis rhanbarth o fewn y wlad honno?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 30/04/2024

Nid oes unrhyw wahaniaeth rhwng dewis gwlad a rhanbarth yng Nghymru yn system Oriel, a’r drefn a ddefnyddir ar gyfer Lloegr a’r Alban, oni bai, wrth gwrs, fod ymgeisydd yn gwneud cais am swydd wag leol sydd ond yn recriwtio ar gyfer un wlad yn unig.

Mae’r mwyafrif o brosesau Recriwtio Cenedlaethol yn recriwtio ar gyfer y pedair gwlad. Yn rhan o’r broses hon, bydd ymgeisydd yn gwneud cais am swydd wag a swyddi a ffefrir mewn unrhyw wlad neu ranbarth. Ceir rhai eithriadau pan fo ymgeiswyr, yn ystod y cam ymgeisio, yn gwneud cais i garfan sydd fel arfer wedi’u grwpio fel ‘Cymru a Lloegr’, ‘Yr Alban’ neu ‘Gogledd Iwerddon’. Pan fo ymgeisydd yn ymgeisio am swydd wag leol, bydd hyn yn cael ei gyfyngu i’r wlad a’r rhanbarthau o fewn y swydd wag honno.