WQ92580 (w) Wedi’i gyflwyno ar 23/04/2024

Yn dilyn WQ92439, a wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu gwybodaeth i gadarnhau o ba awdurdod lleol yng Nghymru yr oedd y myfyrwyr rheiny o Gymru sydd yn astudio deintyddiaeth y tu allan i Gymru yn hanu?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 29/04/2024

Fel y nodwyd yn fy ymateb i WQ92439, ar hyn o bryd mae yna 20 o fyfyrwyr o Gymru yn astudio deintyddiaeth y tu allan i Gymru. Yn anffodus, ni allwn roi manylion ynghylch o ba awdurdod lleol yng Nghymru y daw’r myfyrwyr hyn, oherwydd y niferoedd isel. Byddai elfennau o’r data wedi’u cuddio (h.y. yn ymddangos fel sero).