WQ92533 (w) Wedi’i gyflwyno ar 22/04/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet gadarnhau sawl practis deintyddol oedd yn darparu deintyddiaeth y GIG yn Arfon sydd wedi cau yn ystod y pum mlynedd diwethaf, a sawl practis deintyddol sydd wedi dechrau darparu deintyddiaeth y GIG o’r newydd yn yr un cyfnod?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 29/04/2024

Nid yw Llywodraeth Cymru yn cadw’r wybodaeth hon. Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau deintyddol i’w boblogaeth leol, felly dylid cyfeirio’r cwestiynau hyn ato.

Rwyf wedi gofyn i Iechyd a Gofal Digidol Cymru ddatblygu porth mynediad ar gyfer gofal deintyddol, a fydd yn galluogi unrhyw un sydd eisiau gofal rheolaidd i gofrestru eu manylion. Ar ôl rhoi’r porth ar waith yn ddiweddarach eleni, byddwn ni a’r byrddau iechyd yn gallu cael syniad clir o’r gwasanaethau a’r gweithlu ychwanegol sydd eu hangen i ddiwallu anghenion lleol.