WQ92530 (w) Wedi’i gyflwyno ar 22/04/2024

Sawl deintydd sydd wrthi’n hyfforddi yn yr Academi Ddeintyddol ym Mangor ar hyn o bryd?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 29/04/2024

Nid yw’r Academi Ddeintyddol ym Mangor yn gyfleuster hyfforddi ar gyfer myfyrwyr deintyddol israddedig. Felly, nid oes deintyddion yn cael eu hyfforddi yno ar hyn o bryd.

Mae’r Academi yn darparu gwasanaethau deintyddol cyffredinol ar y llawr gwaelod, sy’n cynnwys naw deintyddfa weithredol.