Faint o bobl yn Arfon sydd a) wedi cofrestru gyda deintydd y GIG, b) wedi cofrestru gyda deintydd preifat, ac c) heb gofrestru gyda deintydd o gwbl?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
| Wedi'i ateb ar 29/04/2024
Nid yw Llywodraeth Cymru yn cadw’r wybodaeth hon. Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sy’n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau deintyddol i’w boblogaeth leol, felly dylid cyfeirio’r cwestiynau hyn ato.
Rwyf wedi gofyn i Iechyd a Gofal Digidol Cymru ddatblygu porth mynediad ar gyfer gofal deintyddol, a fydd yn galluogi unrhyw un sydd eisiau gofal rheolaidd i gofrestru eu manylion. Ar ôl rhoi’r porth ar waith yn ddiweddarach eleni, byddwn ni a’r byrddau iechyd yn gallu cael syniad clir o’r gwasanaethau a’r gweithlu ychwanegol sydd eu hangen i ddiwallu anghenion lleol.