WQ92524 (e) Wedi’i gyflwyno ar 24/04/2024

A wnaiff y Comisiwn ddarparu dadansoddiad llawn o'r data ar batrymau gwaith a threfniadau gweithio gartref y mae wedi'u casglu, fel y cyfeirir atynt mewn ateb i WQ91970, gan gynnwys pa gyfran o staff sydd wedi cael rhyw fath o drefniant gweithio gartref am bob un o'r pum mlynedd diwethaf?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 03/05/2024

O fewn gweithlu'r Comisiwn, mae 15.9 y cant o'r staff yn gweithio'n rhan-amser, mae 82.9 y cant o'r staff yn weithwyr amser llawn ac mae 1.2 y cant yn gweithio patrymau yn ystod y tymor.

Yn 2019, roedd gan 10 aelod o staff (sy’n cyfateb i oddeutu 2 y cant o’r gweithlu) drefniant gweithio gartref cytundebol, parhaol ar waith. Yn 2020, cynyddodd hyn i 12 aelod o staff, ac mae’r nifer wedi aros yr un fath ers hynny.

Mae nifer o rolau yn y Comisiwn, fel staff diogelwch, porthorion a staff cyswllt cyntaf, na ellir eu cyflawni yn unman ond ar ystad y Senedd.  Mae'r rolau hyn yn cyfateb i 18 y cant o staff y Comisiwn.  Felly, cyn y pandemig, byddai pob rôl ac eithrio'r gweithwyr cartref parhaol yn gwneud eu gwaith yn y swyddfa.  Fodd bynnag, ar ôl y pandemig, mae gan bob rôl sydd naill ai'n sefydlog i'r swyddfa neu'n weithwyr cartref parhaol, y gallu i weithio gartref, os yw gofynion darparu gwasanaeth yn caniatáu hynny.

Fel y cyfeiriwyd ato yn WQ91970, nid yw'r Comisiwn yn casglu gwybodaeth unigol ar gyfer pob aelod o staff a'u hunion leoliad ar bwynt penodol o'r dydd wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau, ac nid yw’n bosibl darparu dadansoddiad o hyn dros y pum mlynedd diwethaf.