A yw’r Ysgrifennydd Cabinet yn ymwybodol o newidiadau yn nhrefniadaeth ganolog Age Cymru dros y blynyddoedd diwethaf sydd wedi arwain at mwy o ganoli pwerau a phenderfyniadau yn Age UK ac unrhyw effaith mae hynny wedi'i gael ar y cydweithio rhwng y Llywodraeth a'r corff i gyflawni dros bobl Cymru?
Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Gofal Cymdeithasol
| Wedi'i ateb ar 26/04/2024
Nid ydym yn ymwybodol o unrhyw newidiadau. Ar un adeg roedd Age Cymru yn rhan o strwythur grŵp Age UK ond ers mis Ebrill 2023 mae'n sefydliad annibynnol.
Rydym yn parhau i weithio ar y cyd ag Age Cymru ar amryw o brosiectau ac mae Age Cymru yn cael cyllid gan Lywodraeth Cymru i ddarparu gwasanaethau i bobl hŷn yng Nghymru drwy ein Cynllun Grant ar gyfer Trydydd Sector Cynaliadwy.