A yw Comisiwn y Senedd yn cydymffurfio â'r rheolau ailgylchu newydd a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru ac, os felly, ar ba ddyddiad y dechreuodd y cydymffurfio?
Mae Comisiwn y Senedd wedi bod yn cydymffurfio â’r gofynion craidd a gyflwynwyd ar 6 Ebrill ac rydym wedi bod yn gweithio gyda’n contractwr i sicrhau bod gwastraff ailgylchu yn cael ei gasglu mewn ffrydiau ar wahân fel sy’n ofynnol o dan y ddeddfwriaeth newydd.
Rydym yn ailgylchu ers amser maith, ac yn cyhoeddi ein perfformiad yn ein Hadroddiad Blynyddol, ond rydym bob amser yn manteisio ar gyfleoedd i wella ein cyfraddau ailgylchu ymhellach.
Nid ydym bellach yn anfon unrhyw wastraff i safleoedd tirlenwi, ac rydym yn ailgylchu deunyddiau fel plastig, papur, cerdyn a gwydr ers blynyddoedd lawer. Mae ein gwastraff bwyd yn mynd i gyfleuster treulio anaerobig, ac mae gennym drap saim ar gyfer elifiant cegin.
Rydym wedi bod yn aros i gael cadarnhad gan ein contractwr gwastraff am drefniadau casglu ar gyfer y ffrwd wastraff plastig a metel ac ynghylch darparu bin allanol newydd.
Mae'r tîm Rheoli Cyfleusterau ac Ystadau wedi bod yn cynnal teithiau llawr i gyflwyno'r newid yn llawn yn swyddfeydd yr Aelodau ac yn ardaloedd staff y Comisiwn. Rydym hefyd wedi cyhoeddi gwybodaeth berthnasol ar fewnrwyd yr Aelodau. Byddwn yn parhau i adolygu cydymffurfiaeth, gan gynnwys dadansoddiad o gyfraddau cyfranogiad ar draws y swyddfeydd, a byddwn yn hapus i adrodd yn ôl i’r Aelod ar ganlyniadau’r gwaith hwn dros y misoedd nesaf.