WQ92458 (w) Wedi’i gyflwyno ar 15/04/2024

Beth yw sgôr cyfartalog cyrhaeddiad myfyrwyr meddygaeth a deintyddiaeth sy’n llwyddiannus yn cael lleoliad hyfforddi yng Nghymru a sut mae hyn yn cymharu gyda’r cyfartaledd ar draws y Deyrnas Gyfunol?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 22/04/2024

Yn debyg i wledydd eraill, mae Cymru yn recriwtio unigolion ar draws yr ystod lawn o sgoriau – o'r uchaf i'r isaf. Mae sgoriau yn gweithio fel trothwy ar gyfer y broses recriwtio, sy'n golygu bod cysondeb â'r swyddi sydd ar gael a hefyd y safon ddisgwyliedig ofynnol ar gyfer ymuno â rhaglen hyfforddi. Mae'r gyfran ym mhob chwartel o'r ystod sgorio yn amrywio rhwng rhaglenni ac o flwyddyn i flwyddyn ar draws pob gwlad.