WQ92457 (w) Wedi’i gyflwyno ar 15/04/2024

Pa ystyriaeth mae’r Llywodraeth wedi’i roi i’r posibilrwydd o ganiatáu i fyfyrwyr fanylu ar system Oriel ar ba ranbarth o fewn Cymru yr hoffen nhw weithio?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 22/04/2024

NHS Lloegr wnaeth ddatblygu Oriel ar ran y pedair gwlad, ac fe gafodd ei lansio ym mis Medi 2014. Dyma'r porth ledled y Deyrnas Unedig ar gyfer recriwtio i raglenni hyfforddiant ôl-raddedig ym meysydd meddygaeth, deintyddiaeth, iechyd y cyhoedd, gwyddor gofal iechyd a fferylliaeth sylfaen. Nid yw'n cael ei ddefnyddio ar gyfer rheoli lleoliadau.

Cafodd y system ei chaffael yn unol â gofynion y llywodraeth a datblygiadau digidol. Wrth ei datblygu'n wreiddiol, cafodd rhanddeiliaid allweddol, yn eu plith gweinyddiaethau datganoledig, cyrff addysg statudol (trwy'r Bwrdd Recriwtio a Dethol Meddygol a Deintyddol a Grŵp Cyfeirio Addysg y DU), y Colegau Brenhinol, hyfforddeion a Chymdeithas Feddygol Prydain eu cynnwys. Mae'r rhain yn parhau i gymryd rhan heddiw yn y gwaith o ystyried unrhyw gynlluniau i ddatblygu ac uwchraddio.  

Mae'r holl brosesau recriwtio yn galluogi ymgeiswyr i nodi'r wlad maen nhw'n ei ffafrio. Mae rhai rhaglenni yn fwy cystadleuol nag eraill ac mae ymgeiswyr sydd â'r sgôr uchaf yn fwy tebygol o gael eu dyrannu i'r wlad a'r rhanbarth/cylchdro o'u dewis. Mae rôl Oriel yn y broses hon yn amrywio ar draws rhaglenni ond mae pob ymgeisydd yn cael cyfle i ddewis y wlad mae'n ei ffafrio yn y lle cyntaf. Ar gyfer ymgeiswyr sy'n cael eu dyrannu i Gymru, mae cyfle i ddewis lleoliad o fewn y wlad. Mae'r broses ar gyfer hyn yn amrywio ar draws rhaglenni.