A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet roi diweddariad ar gyflawniad argymhelliad 10 adroddiad Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd a gyhoeddwyd ar 15 Chwefror 2023 a chadarnhau a ydi gwaith ar y trywydd iawn i ymateb yn llawn i’r argymhelliad erbyn Gorffennaf eleni yn unol â’r argymhelliad?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
| Wedi'i ateb ar 22/04/2024
Rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i gynyddu lleoedd hyfforddi ar gyfer pob aelod o'r tîm deintyddol, ond mae'n anodd iawn cyflawni hyn yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni. Serch hynny, rydym yn siarad â darparwyr hyfforddiant deintyddol, hen a newydd, i nodi'r holl opsiynau posibl. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol cyn toriad yr haf.