Pa asesiad mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi ei wneud o’r lleoedd deintyddol y GIG ychwanegol sydd eu hangen yn Arfon a beth yw’r anghenion gweithlu a hyfforddiant sydd ei angen i gyfarch yr angen hwnnw?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
| Wedi'i ateb ar 22/04/2024
Rwyf wedi gofyn i Iechyd a Gofal Digidol Cymru ddatblygu porth mynediad ar gyfer gofal deintyddol, a fydd yn galluogi unrhyw un sydd eisiau gofal rheolaidd i gofrestru eu manylion. Trwyddo, byddwn ni a'r byrddau iechyd yn gallu cael syniad clir o'r gwasanaethau a'r gweithlu ychwanegol sydd eu hangen i ddiwallu anghenion lleol.