WQ92440 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/04/2024

Faint o fyfyrwyr a raddiodd mewn deintyddiaeth yng Nghymru yn y tair blynedd diwethaf a arhosodd yng Nghymru i weithio neu a barhaodd i astudio yng Nghymru?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 19/04/2024

Mae’r wybodaeth isod yn dangos sawl myfyriwr sy’n gwneud eu Hyfforddiant Deintyddol Sylfaenol (DFT) yng Nghymru ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd.

 

2019/20

2020/21

2021/22

2022/23

2023/24

Canran o’r garfan DFT a raddiodd o Brifysgol Caerdydd

50%

46.80%

38.20%

43.30%

46.50%

Nifer y garfan DFT a raddiodd o Brifysgol Caerdydd

34

29

26

29

33

Daw’r holl ffigurau gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC).