WQ92439 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/04/2024

A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddarparu'r wybodaeth ganlynol ar gyfer y tair blynedd diwethaf: a) nifer y myfyrwyr o Gymru oedd yn astudio deintyddiaeth mewn prifysgolion y tu allan i Gymru; ac o'r rheiny b) ym mha brifysgolion yr oeddynt yn astudio; ac c) o ba awdurdod lleol yr oeddynt yn deillio?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar 22/04/2024

Mae'r tabl isod yn dangos nifer y myfyrwyr o Gymru wnaeth astudio deintyddiaeth y tu allan i Gymru a lle gwnaethant astudio:

Myfyrwyr blwyddyn gyntaf sy'n hanu o Gymru, sydd wedi cofrestru ar gyrsiau deintyddiaeth yn ôl darparwr (2019/20 i 2021/22)

 

2019/20

2020/21

2021/22

Prifysgol Bryste

10

10

5

Prifysgol Lerpwl

5

5

5

Prifysgol Birmingham

5

5

5

Prifysgol Plymouth

10

15

5

Darparwyr Addysg Uwch eraill y tu allan i Gymru

10

10

20

Darparwyr Addysg Uwch yng Nghymru

20

10

20

Cyfanswm

60

55

65

 

Nodiadau
 
Mae'r holl ffigurau yn seiliedig ar gofrestriadau ar gyfer y myfyrwyr canlynol:

  1. Myfyrwyr sydd wedi'u cyfrif yn y boblogaeth cofrestru Addysg Uwch safonol
  2. Myfyrwyr sy'n hanu o Gymru
  3. Myfyrwyr sy'n astudio cwrs deintyddiaeth a reoleiddir gan y Cyngor Deintyddol Cyffredinol
  4. Myfyrwyr sy'n eu blwyddyn gyntaf o astudio
  5. Myfyrwyr sy'n astudio cwrs gydag un o'r nodau canlynol:
     
    a. Gradd gyntaf cyn cofrestru gydag anrhydedd sy'n arwain at gymhwyster i gofrestru i ymarfer â chorff rheoleiddio statudol iechyd neu ofal cymdeithasol neu filfeddygol
    b. Gradd gyntaf gyffredin cyn cofrestru (heb anrhydedd) sy'n arwain at gymhwyster i gofrestru i ymarfer â chorff rheoleiddio statudol iechyd neu ofal cymdeithasol neu filfeddygol
    c. Gradd meistr israddedig / ôl-raddedig integredig a addysgir ar y patrwm estynedig sy'n arwain at gymhwyster i gofrestru i ymarfer â chorff rheoleiddio statudol iechyd neu ofal cymdeithasol neu filfeddygol