A oes canllawiau wedi'u rhoi i benaethiaid gwasanaethau democrataidd awdurdodau lleol yn unol ag adran 8(1A) Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, fel y'i ychwanegwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio
| Wedi'i ateb ar 19/04/2024
Mae’r Canllawiau Statudol ac Anstatudol ar gyfer Prif Gynghorau, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2023, yn rhoi canllawiau i awdurdodau lleol o dan adran 8(1A) o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, fel y'i ychwanegwyd gan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.