WQ92410 (w) Wedi’i gyflwyno ar 12/04/2024

Pa awdurdodau lleol sydd wedi cyflwyno rhannu swyddi ac i ba swyddi?

Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol, Tai a Chynllunio | Wedi'i ateb ar 19/04/2024

Gwnaeth Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (Deddf 2021) ddarpariaeth i gynyddu uchafswm aelodau’r weithrediaeth o 10 i 13 i ganiatáu ar gyfer sefydlu hyd at 3 trefniant rhannu swydd.

Mater i bob cyngor unigol yw penderfynu a ydynt yn dymuno gweithredu trefniadau rhannu swydd.

Gall trefniadau’r Cynghorau newid, ac mae’r wybodaeth gyfredol yn dangos bod gan 4 cyngor drefniadau rhannu swydd ar waith:

  • Cyngor Sir y Fflint – dau aelod yn rhannu rôl y Dirprwy Arweinydd.
  • Cyngor Sir Ynys Môn – dau aelod yn rhannu rôl y Dirprwy Arweinydd.
  • Cyngor Dinas a Sir Abertawe – dau aelod yn rhannu rôl yr Aelod Cabinet Cymunedol
  • Cyngor Dinas a Sir Caerdydd – dau aelod yn rhannu’r portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol, a dau aelod arall yn rhannu’r portffolio Trechu Tlodi, Cydraddoldeb ac Iechyd y Cyhoedd.