Ydy Coleg Sir Gar wedi cyflwyno achos busnes amlinellol yn ymwneud â’i cynlluniau ar gyfer campws Pibwrlwydd a champws Rhydaman i Gwmni Partneriaeth Addysg Cymru (WEPCo)?
Wedi'i ateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
| Wedi'i ateb ar 10/04/2024
Cafodd achos amlinellol strategol Coleg Sir Gâr ar gyfer y buddsoddi arfaethedig yng Nghampws Pibwrlwyd ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2023 a'i gymeradwyo ym mis Mai 2023.
Nid yw Coleg Sir Gâr wedi cyflwyno achos busnes amlinellol i Gwmni Partneriaeth Addysg Cymru.