A yw Comisiwn y Senedd yn darparu unrhyw ganllawiau i Lywodraeth Cymru mai dim ond ar gyfer busnes y Senedd y dylid defnyddio ffonau a rannwyd gan y Senedd, ac nid busnes Llywodraeth Cymru neu ddefnydd personol?
Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd
| Wedi'i ateb ar 03/05/2024
Mae Aelodau o’r Senedd, gan gynnwys y rheini sy’n aelodau o Lywodraeth Cymru, yn cael yr un wybodaeth, yn unigol, am y defnydd o adnoddau Comisiwn y Senedd, sy’n cynnwys y defnydd o ffonau.