A yw Comisiwn y Senedd yn darparu unrhyw ganllawiau i Aelodau o'r Senedd i sicrhau bod ffonau a roddir iddynt gan y Senedd yn cael eu defnyddio ar gyfer busnes y Senedd yn unig?
Y Llywydd ar ran Comisiwn y Senedd:
Ar ôl cael eu hethol i'r Senedd, caiff pob Aelod eu cyfeirio at y Rheolau a Chanllawiau ar Ddefnyddio Adnoddau'r Senedd a'r Amodau Diogelwch a Defnyddio TGCh.
Caiff unrhyw ddiweddariad i'r Rheolau ei dynnu i sylw'r holl Aelodau.
Mae'r Rheolau presennol ar gael ar wefan y Senedd ac anfonwyd copi o'r ddogfen at yr holl Aelodau, a'u staff, ar 6 Gorffennaf 2022, cyn iddynt ddod i rym ar ddechrau toriad yr haf, ddydd Llun 18 Gorffennaf 2022.
‘Rheol 4 – Eitemau a chyfleusterau a brynir gydag adnoddau'r Comisiwn neu a ddarperir gan y Comisiwn
(1) Rhaid i eitemau a chyfleusterau a brynir gydag adnoddau'r Comisiwn neu a ddarperir gan y Comisiwn at ddefnydd yr Aelodau gael eu defnyddio mewn cysylltiad â dyletswyddau Aelod yn unig.
(2) Mae eitemau a brynir gydag adnoddau'r Comisiwn yn dod yn eiddo i'r Comisiwn ac yn parhau’n eiddo i’r Comisiwn ac maent i'w dychwelyd yn brydlon pan ofynnir amdanynt.
(3) Rhaid i eitemau a ddarperir gan y Comisiwn at ddefnydd yr Aelodau gael eu defnyddio yn unol ag amodau a bennir gan y Comisiwn o bryd i'w gilydd yn ymwneud â'r defnydd ohonynt.’
Mae'r Canllawiau ar gyfer Rheol 4 yn cynnwys:
“Mae'r rheol hon yn ymwneud ag eitemau a gwasanaethau y mae Aelodau'n eu prynu gydag adnoddau'r Comisiwn neu'n cael eu darparu gan y Comisiwn at ddefnydd yr Aelodau (er enghraifft, offer TGCh a chontractau gyda darparwyr gwasanaeth).
Mae rheol 4(3) yn cynnwys, yn benodol, fod yr offer TGCh sy’n cael ei ddarparu gan y Comisiwn yn ddarostyngedig i’r Amodau Diogelwch a Defnyddio TGCh, gan gynnwys defnydd personol cyfyngedig ac achlysurol a ganiateir o dan yr Amodau.”
““Dyletswyddau Aelod” – yw gweithgaredd mewn perthynas â busnes y Senedd a busnes etholaethol neu ranbarthol, lle bynnag yr ymgymerir ag ef, yn rhinwedd swydd gyhoeddus Aelod o’r Senedd.”
Mater i bob Aelod yw penderfynu sut i gyflawni eu dyletswyddau yng nghyd-destun eu busnes etholaeth neu ranbarthol a'u cyfrifoldebau seneddol. Rhaid i'r farn hon gael ei gweithredu o fewn y rheolau sy'n berthnasol.