Beth oedd cyfanswm nifer yr oriau y bu staff Comisiwn y Senedd yn gweithio gartref dros y 12 mis diwethaf?
Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd
| Wedi'i ateb ar 22/04/2024
Llywydd ar ran Comisiwn y Senedd:
Mae Comisiwn y Senedd yn rheoli ac yn adolygu perfformiad ei staff yn weithredol yn erbyn nodau strategol, gofynion gwasanaethau ac amcanion unigol, bob amser; rydym hefyd yn monitro presenoldeb ar y safle, yn ogystal â gwyliau blynyddol, gwyliau hyblyg a lefelau absenoldeb salwch. Fodd bynnag, nid yw'r Comisiwn yn casglu gwybodaeth am yr oriau y mae ei staff yn weithio gartref.