Pa gyfran o staff Comisiwn y Senedd sydd wedi gweithio gartref am unrhyw gyfnod dros y 12 mis diwethaf?
Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd
| Wedi'i ateb ar 19/04/2024
Y Llywydd ar ran Comisiwn y Senedd:
Mae'r Comisiwn yn casglu data ynghylch patrymau gwaith, gan gynnwys trefniadau gweithio gartref. Mae trefniadau o'r fath yn amodol ar ofynion darparu gwasanaethau a chymeradwyaeth rheolwyr. Nid yw'r Comisiwn yn casglu gwybodaeth unigol ar gyfer pob aelod o staff a'u hunion leoliad ar bwynt penodol o'r dydd wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau.