WQ91935 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/03/2024

A wnaiff y Comisiwn gadarnhau a yw Gweinidogion Llywodraeth Cymru yn cael defnyddio dyfeisiau TGCh y Senedd wrth ymgymryd â busnes y llywodraeth?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 19/04/2024

Y Llywydd ar ran Comisiwn y Senedd: 

Y Rheolau a Chanllawiau ar Ddefnyddio Adnoddau'r Senedd sy’n rheoli'r defnydd o adnoddau'r Comisiwn, a byddai hyn yn cynnwys defnyddio dyfeisiau TGCh a ddarperir gan Gomisiwn y Senedd.  Mae Rheol 4 yn datgan fel a ganlyn -

‘Rheol 4 – Eitemau, gwasanaethau a chyfleusterau a brynir gydag adnoddau'r Comisiwn neu a ddarperir gan y Comisiwn

(1)  Rhaid i eitemau, gwasanaethau a chyfleusterau a brynir gydag adnoddau'r Comisiwn neu a ddarperir gan y Comisiwn at ddefnydd yr Aelodau gael eu defnyddio mewn cysylltiad â dyletswyddau Aelod yn unig.

(2) Mae eitemau a brynir gydag adnoddau'r Comisiwn yn dod yn eiddo i'r Comisiwn ac yn parhau’n eiddo i’r Comisiwn ac maent i'w dychwelyd yn brydlon pan ofynnir amdanynt.

(3) Rhaid i eitemau a ddarperir gan y Comisiwn at ddefnydd yr Aelodau gael eu defnyddio yn unol ag amodau a bennir gan y Comisiwn o bryd i'w gilydd yn ymwneud â'r defnydd ohonynt.’

Mae’r Rheolau’n nodi hefyd bod “dyletswyddau Aelod” – yn golygu gweithgaredd mewn perthynas â busnes y Senedd a busnes etholaethol neu ranbarthol, lle bynnag yr ymgymerir ag ef, yn rhinwedd swydd gyhoeddus Aelod o’r Senedd;