WQ91934 (e) Wedi’i gyflwyno ar 11/03/2024

A gafodd negeseuon WhatsApp eu dileu o ffonau symudol unrhyw Weinidogion yn Llywodraeth Cymru yn ystod gwaith cynnal a chadw gan dimau cymorth technegol y Senedd, ac os felly, a fydd y Comisiwn yn nodi'r Gweinidogion y mae hyn wedi effeithio arnynt?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 19/04/2024

Y Llywydd ar ran Comisiwn y Senedd:

Mae Comisiwn y Senedd yn darparu ffonau iPhone i'r Aelodau, yn ogystal â darparu mynediad a chefnogaeth i raglenni Microsoft 365.

Ym mis Ebrill 2022, cafodd ein diogelwch ar ffonau Aelodau eu huwchraddio.  Roedd y diweddariad dan sylw yn gofyn i'r Aelodau gofnodi eu dull adnabod ar Apple yn gyntaf ac yna drosglwyddo'r ffôn i staff yn y Gwasanaeth TGCh. Yna cafodd y ffonau eu 'glanhau' a'r gwaith adeiladu diogelwch newydd ei osod.

Cyn yr uwchraddio, cysylltwyd â'r Aelodau a'u swyddfeydd a chawsant gyngor ynghylch sut i storio unrhyw ddata wrth gefn ar y ffôn gan gynnwys cymwysiadau na chânt eu cynnal.  Cynigiwyd cymorth i'r aelodau i wneud hyn hefyd, os oedd angen.

Nid wyf yn bwriadu gwneud sylwadau ar fanylion y gwasanaethau a gynigir i Aelodau unigol.