A wnaiff y Comisiwn ddarparu dadansoddiad o'r costau a'r llafur ar gyfer gosod y polion baneri newydd y tu allan i Dŷ Hywel?
Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd
| Wedi'i ateb ar 22/04/2024
Llywydd ar ran Comisiwn y Senedd:
Cafodd y polion y tu allan i Dŷ Hywel eu gosod ym 1999. Yn dilyn ymweliad cynnal a chadw wedi'i gynllunio ym mis Hydref 2022, argymhellwyd eu hadnewyddu oherwydd eu hoedran a'u cyflwr. Roedd hyn yn cynnwys yr angen i adnewyddu a chryfhau'r sylfaen goncrit a'r gosodiadau ar gyfer y polion.
Rydym wedi cael gwybod bod y costau manwl yn fasnachol sensitif ond gallwn gadarnhau mai cyfanswm costau'r prosiect yw £36,594.64.
Mae hyn yn cynnwys tynnu a gwaredu’r hen bolion a'r sylfaen goncrit a phrynu a gosod y polion newydd a gosod sylfaen goncrit newydd.