Beth oedd y dyddiad cwblhau gwreiddiol a roddwyd gan y contractwyr sy'n ymgymryd â'r gwaith o osod polion baneri newydd y tu allan i Dŷ Hywel?
Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd
| Wedi'i ateb ar 22/04/2024
Llywydd ar ran Comisiwn y Senedd:
Y dyddiad cwblhau gwreiddiol a roddwyd gan y contractwyr sy'n ymgymryd â'r gwaith o osod polion baneri newydd y tu allan i Dŷ Hywel oedd 24 Mawrth. Mae gwaith hyd yn hyn wedi'i gwblhau yn ôl y rhaglen ac rydym yn rhagweld y bydd y dyddiad cwblhau hwn yn cael ei fodloni.