A yw'r Comisiwn wedi cyflogi rhagor o staff er mwyn gweithio ar weithredu diwygio'r Senedd?
Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd
| Wedi'i ateb ar 22/04/2024
Llywydd ar ran Comisiwn y Senedd:
Ydy. Fel y nodwyd yn yr Asesiad Effaith Rheoleiddiol ar gyfer Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), mae angen swyddi dros dro ychwanegol ar Gomisiwn y Senedd i gefnogi gweithredu Diwygio'r Senedd fel rhan o'n paratoadau ar gyfer y Seithfed Senedd.