A wnaiff y Comisiwn amlinellu pa mor aml, ar gyfartaledd, y mae staff yn gweithio gartref, a pha mor aml maen nhw'n gweithio o Dŷ Hywel?
Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd
| Wedi'i ateb ar 22/04/2024
Llywydd ar ran Comisiwn y Senedd:
O'r ffigurau yn ymwneud â phresenoldeb ar y safle ar gyfer blwyddyn galendr 2023, a gan nodi bod newidynnau sylweddol o fewn y data, roedd staff y Comisiwn ar y safle am 2 ddiwrnod yr wythnos ar gyfartaledd yn ystod y tymor.