WQ91822 (e) Wedi’i gyflwyno ar 07/03/2024

Beth oedd y broses dendro ar gyfer dewis y cwmni a ddefnyddiwyd i roi polion baneri newydd ar flaen Tŷ Hywel?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 22/04/2024

Llywydd ar ran Comisiwn y Senedd:

Cynhaliodd Comisiwn y Senedd broses dendro drwy ei gontract cynnal a chadw gyda CBRE a wahoddodd nifer o gyflenwyr lleol i dendro am y gwaith er mwyn sicrhau'r gwerth gorau am arian.  Penodwyd y contractwr llwyddiannus ar sail cyflwyno'r gwerth gorau a'r tendr isaf o ran costau.