WQ91786 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2024

Ymhellach i WQ91409, a oedd gan y system deledu flaenorol ar ystâd y Senedd nodwedd y gellid ei defnyddio i rwystro sianeli teledu ac, os felly, beth oedd y mecanwaith hwnnw?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 14/03/2024

Roedd gan y system deledu flaenorol nodwedd i reoli pa sianeli y gellid eu gwylio ar setiau teledu ar yr ystad. Roedd hyn yn cynnwys cysylltu gliniadur â'r uned ddosbarthu, agor y modiwl rheoli a dilyn y dewislenni a'r camau perthnasol i ddewis pa sianeli i'w harddangos ar y system.