WQ91782 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2024

Yn dilyn W91409, a wnaiff y Comisiwn ddarparu dadansoddiad o gost y blychau pen set yn benodol, ar wahân i'r unedau arwyddion digidol, a chadarnhau cyfanswm y blychau pen set a brynwyd fel rhan o'r prosiect uwchraddio?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 14/03/2024

Mae'r rhain yn unedau perchenogol ac mae'r gost fesul dyfais yn wybodaeth fasnachol sensitif. Gallai cyhoeddi'r manylion hyn fod yn niweidiol neu'n anfantais i'r cyflenwr.