WQ91780 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2024

A yw blychau pen set newydd Tripleplay ar gyfer setiau teledu ar ystad y Senedd yn caniatáu ar gyfer rhwystro sianeli teledu mewn ffordd nad oedd yn bosibl cyn i'r blychau newydd gael eu gosod?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 14/03/2024

Nid ydym yn defnyddio'r blychau pen set i rwystro sianeli. Mae'r blychau pen set yn ddyfeisiadau sy'n derbyn ac yn datgodio signalau o'r system ganolog. Mae gosod pa sianeli sydd ar gael i'w gwylio yn cael ei wneud ar lefel system ganolog.