WQ91779 (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/03/2024

A yw'r platfform newydd IPTV ar gyfer setiau teledu ar ystad y Senedd yn caniatáu ar gyfer rhwystro sianeli teledu mewn ffordd nad oedd yn bosibl cyn i'r system newydd gael ei gosod?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 14/03/2024

Roedd y gallu i osod yn ganolog pa sianeli y gellid eu gwylio ar setiau teledu ar draws yr ystad yn bosibl gyda'r hen system. Ymhlith nodweddion uwch y system newydd mae'r gallu i'w rheoli o bell, sy'n gwella amseroedd ymateb ar gyfer canfod a thrwsio diffygion, cynnal a chadw ac effeithlonrwydd.