WQ91571 (w) Wedi’i gyflwyno ar 28/02/2024

Pryd y derbyniodd y Llywodraeth achos busnes amlinellol Coleg Sir Gar o ran eu cais presennol i WEPco - Cwmni Partneriaeth Addysg Cymru, a pryd y mae'r Gweinidog yn bwriadu gwneud penderfyniad yn ei gylch?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg ac Addysg | Wedi'i ateb ar 06/03/2024

Cymeradwywyd rhaglen amlinellol strategol y coleg ar gyfer buddsoddi fel rhan o'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy yn 2017, a oedd yn cynnwys buddsoddiad arfaethedig yng Nghampws Pibwrlwyd. Cyflwynwyd yr achos amlinellol strategol ym mis Mawrth 2023, a oedd yn cynnwys gwerthusiad llawn o opsiynau. Yr opsiwn a ffefrir gan y coleg oedd ad-drefnu campysau fel bod y cyfleusterau ar gampws Rhydaman yn cael eu hadleoli i Gampws Pibwrlwyd. Roedd hyn yn seiliedig ar waith helaeth a wnaed gan y coleg rhwng 2017 a 2023 i adolygu eu strategaeth ystadau.

Ni chafodd achos busnes amlinellol ar gyfer y prosiect ei gyflwyno, ac ni ddisgwylir i un gael ei gyflwyno hyd nes y bydd y prosiect wedi cwblhau cam cyntaf y broses gynllunio gyda WEPCo. Ni ddisgwylir i'r cam cyntaf gael ei gyflawni tan dymor gwanwyn 2025.

Mae prosiectau’r colegau canlynol sy’n rhan o'r Rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy wedi nodi eu bwriad i gau campws:

  • Coleg Penybont – Prosiect Canol y Dref: Adleoliad arfaethedig o Gampws Heol y Bont-faen i safle newydd yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr.
  • Coleg Caerdydd a'r Fro – Prosiect Campysau'r Fro: Bwriedir creu dau gampws newydd ym Mro Morgannwg a fydd yn arwain at gau Campws Heol Colcot yn y Barri.
  • Coleg Gwent – Prosiect Ardal Wybodaeth Casnewydd: Adleoliad arfaethedig o Gampws Heol Nash i safle newydd yng nghanol dinas Casnewydd.
  • Grŵp Colegau NPTC – Prosiect Glannau'r Harbwr: Adleoliad arfaethedig o Gampws Afan i safle newydd ar Ddatblygiad Glannau'r Harbwr.