WQ91409 (e) Wedi’i gyflwyno ar 20/02/2024

A wnaiff y Comisiwn roi dadansoddiad llawn o gyfanswm cost gosod blychau pen set newydd Tripleplay ar sgriniau ar draws ystâd y Senedd?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 05/03/2024

Ken Skates AS ar ran Comisiwn y Senedd:

Cyflwynwyd y blychau pen set Tripleplay fel rhan o brosiect ehangach i ddisodli’r system deledu fewnol, sy’n heneiddio, ac a ddefnyddir ar draws ystâd Bae Caerdydd, a chyflwyno platform cyfunol newydd ar gyfer arwyddion digidol ac IPTV. Bydd hyn hefyd yn gwella arddangosfeydd cyhoeddus ac arwyddion digidol. O ganlyniad, bydd cydrannau craidd y system yn gwella profiadau ymwelwyr a'r rhai sy'n gweithio ar yr Ystâd.

Fe'n hysbyswyd bod y costau manwl yn fasnachol sensitif.

Fodd bynnag, dyma’r costau lefel uchel:

Eitemau

£

Caledwedd a gweinyddwyr system IPTV ac Arwyddion Digidol cyfunol (hollol gydnerth), mwyhaduron dosbarthu fideo a sain, amgodyddion ac offer rhyngwyneb, trwyddedau parhaol

 

£179,000

Unedau arwyddion digidol a blychau pen set

 

£29,000

Ceblau a switshis rhwydwaith

 

£25,000

Cyfanswm

£233,000