WQ91395 (w) Wedi’i gyflwyno ar 19/02/2024

Pa asesiad mae'r Llywodraeth wedi ei wneud o effaith debygol y Cynllun Ffermio Cynaladwy arfaethedig ar y Gymraeg a chymunedau Cymraeg eu hiaith?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd | Wedi'i ateb ar 26/02/2024

Cyhoeddom Asesiad Effaith Integredig ochr yn ochr â'r Ymgynghoriad ar y Cynllun Ffermio Cynaliadwy, sy'n ymdrin â'r camau gweithredu cyffredinol arfaethedig a bennir yn yr ymgynghoriad a'r ymrwymiad ehangach o gefnogaeth i amaethyddiaeth drwy'r Cynllun yn ei gyfanrwydd. Gellir dod o hyd i'r Asesiad Effaith ar y Gymraeg yn Atodiad E yr Asesiad Effaith Integredig.