A wnaiff y Comisiwn amlinellu faint fydd costau'r gwaith o godi polion baneri newydd yn lle'r hen rai yn Nhŷ Hywel?
Gosodwyd polion baneri Tŷ Hywel ym 1999 ac maent bellach wedi para blynyddoedd yn hirach na’u cylch oes disgwyliedig. Maent wedi cael eu cadw’n ddiogel ac yn weithredol trwy raglen reolaidd o waith cynnal a chadw, ond mae eu hoedran a’r amgylchedd morol ac arfordirol sy’n eu hamgylchynu bellach yn golygu eu bod wedi dirywio i sefyllfa lle na ellir eu cynnal mwyach i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn ddiogel.
Bydd agwedd sylweddol ar y gwaith i ddisodli'r polion yn golygu cael gwared ar y plinth concrit presennol y mae’r polion wedi’i leoli arno, i ailadeiladu sylfaen newydd a fydd yn sicrhau bod y sylfeini'n gadarn ac yn ddigon diogel i ddarparu ar gyfer y polion newydd ar gyfer eu cylch oes disgwyliedig.
Y gost i osod polion newydd, a’r gwaith cysylltiedig, yw £36,595. Mae'r gwaith yn cael ei wneud drwy gontract yr adran Rheoli Ystadau a Chyfleusterau gyda CBRE yn dilyn ymarfer tendro cystadleuol i sicrhau'r gwerth gorau am arian.