WQ91192 (w) Wedi’i gyflwyno ar 07/02/2024

Pa ystyriaeth mae’r Gweinidog wedi ei roi i ychwanegu dioddefwyr osteoporosis i’r rhestr o glefydau sy’n gymwys am gefnogaeth gan y rhaglen Cartrefi Clyd?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Newid Hinsawdd | Wedi'i ateb ar 14/02/2024

Mae'r cyflyrau iechyd sy’n gymwys ar gyfer y Rhaglen Cartrefi Clyd yn cynnwys cyflyrau a gydnabyddir gan y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) fel rhai sydd mewn mwy o berygl o afiechyd ac o farw cyn pryd yn sgil byw mewn cartref oer, a phan fo’n rhesymol disgwyl y bydd y symptomau'n cael eu gwella drwy osod mesurau effeithlonrwydd ynni mewn cartref sydd â sgôr D ar y Dystysgrif Perfformiad Ynni (EPC). Ar hyn o bryd nid oes gennym unrhyw dystiolaeth bod osteoporosis yn perthyn i'r categori hwn.

Rydym yn awyddus i sicrhau bod ein polisi yn seiliedig ar y dystiolaeth fwyaf cyfredol a chadarn ac os bydd tystiolaeth newydd yn datgelu bod cyflyrau ychwanegol yn bodloni'r meini prawf a nodir uchod, rydym yn agored i adolygu'r rhestr.