WQ90629 (w) Wedi’i gyflwyno ar 19/01/2024

Pa gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i annog awdurdodau lleol i weithredu eu pwerau newydd i gyflwyno'r Bleidlais Sengl Drosglwyddadawy erbyn y terfyn amser o 15 Tachwedd 2024 sy'n ofynnol os yw newidiadau am fod yn weithredol erbyn etholiadau nesaf llywodraeth leol yn 2027?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol | Wedi'i ateb ar 26/01/2024

O dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, rhoddwyd yr opsiwn i’r prif gynghorau ddewis rhwng systemau ‘y cyntaf i’r felin’ a phleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau prif gynghorau. Bydd pob un o’r 22 o brif gynghorau yng Nghymru yn parhau i ddefnyddio system ‘y cyntaf i’r felin’ oni bai eu bod yn penderfynu newid yn unol â’r weithdrefn a ddisgrifir yn Neddf 2021.

Gallaf gadarnhau bod Cynghorau Sir Gwynedd a Phowys wedi pleidleisio i ymgynghori’n lleol ar yr opsiwn i symud i’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy.

Fel llywodraeth, rydym yn niwtral o ran systemau etholiadol cynghorau. Er mwyn helpu i sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud mewn modd cytbwys, fe wnaethom weithredu Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy) (Cymru) 2023 yn ddiweddar i ddarparu sicrwydd ac eglurder ar gynnal etholiadau drwy ddefnyddio’r system pleidlais sengl drosglwyddadwy. Bellach, mater i’r Awdurdodau Lleol yw gwneud eu penderfyniad ynglŷn â hyn.

Bydd swyddogion yn parhau i weithio’n agos gyda’r Comisiwn Etholiadol a rhanddeiliaid eraill i ddarparu canllawiau i helpu cynghorau i ddeall a gweithredu’r rheolau. Byddwn yn parhau i godi ymwybyddiaeth drwy ymgysylltu’n rheolaidd â CLlLC a chynghorau.