A wnaiff y Comisiwn amlinellu'r cyfanswm sydd wedi'i wario ar gyflogau rolau o fewn Comisiwn y Senedd sy'n gyfrifol yn unig neu'n bennaf am amrywiaeth, tegwch a/neu gynhwysiant, a rhoi dadansoddiad llawn o'r costau hynny?
Mae’r Comisiwn yn cyflogi dau aelod o staff parhaol, cyfwerth ag amser llawn, sydd â chyfrifoldeb unswydd am amrywiaeth, tegwch a/neu gynhwysiant, sef y Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant a’r Swyddog Amrywiaeth a Chynhwysiant. Mae'r Pennaeth Recriwtio, Amrywiaeth a Chynhwysiant hefyd yn aelod o staff cyfwerth ag amser llawn, sy’n goruchwylio’r swyddogaethau recriwtio, amrywiaeth a chynhwysiant fel arweinydd y tîm.
Cyfanswm y gost o gyflogi’r tri aelod o staff yw £173,572, sy’n cynnwys cyfraniadau Yswiriant Gwladol a chyfraniadau pensiwn.