WQ90263 (e) Wedi’i gyflwyno ar 22/12/2023

Yn dilyn WQ89923, a oes unrhyw gostau eraill a briodolir i Senedd Ieuenctid Cymru, fel teithio a chynhaliaeth? Os felly, a wnaiff y Comisiwn ddarparu dadansoddiad o'r costau hyn?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 12/01/2024

Ken Skates AS ar ran Comisiwn y Senedd:

Mae'r costau gweithredol sy'n gysylltiedig â rhedeg Senedd Ieuenctid Cymru a chefnogi 60 o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn cael eu nodi o fewn cyllideb y Gwasanaethau Cyfathrebu ac Ymgysylltu, sy'n cyfateb i £60k mewn blwyddyn heb etholiad, a £65k mewn blwyddyn etholiad.

Y costau sydd y tu allan i'r gyllideb hon yw:

  • Goramser staff ar gyfer timau sy’n cefnogi penwythnosau preswyl Senedd Ieuenctid Cymru. Mae hyn yn cynnwys cefnogi Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru dros dri diwrnod a dwy noson yng nghanolfan breswyl yr Urdd, a darlledu, TGCh, diogelwch, cyfieithu, staff blaen tŷ, cyfathrebu ac ymgysylltu sy'n ymwneud â chyflawni gweithgareddau yn y Senedd dros y penwythnos preswyl, sy'n cynnwys sesiynau i graffu ar waith gweinidogion yn y Siambr. Yn 2023 daeth y costau hyn i £7,500.
  • Teithio a chynhaliaeth ar gyfer gwasanaethau cyfieithu yn ystod cyfarfodydd a digwyddiadau rhanbarthol. Mae hyn yn cynnwys cefnogi Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn ystod cyfarfodydd a digwyddiadau mewn rhanbarthau lleol lle mae hyfforddiant a gwaith ar faterion Senedd Ieuenctid Cymru yn cael eu datblygu, yn ogystal â chyfleoedd i ymgysylltu â phobl ifanc eraill mewn trafodaethau grwpiau ffocws. Yn 2023 daeth y costau hyn i £1050 ar gyfer y gweithgareddau a ganlyn:
    • 5 x cyfarfod rhanbarthol yn Llanelli, Trefforest, Llandudno a Chonwy
    • 3 x digwyddiad ym Mlaenau Ffestiniog, Pontypridd a Sarn Mynach.