WQ90073 (w) Wedi’i gyflwyno ar 06/12/2023

Pa baratoadau mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud yn wyneb yr achosion o glwy'r tafod glas sydd wedi eu darganfod yn ne ddwyrain Lloegr?

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd | Wedi'i ateb ar 15/12/2023

Rydym yn monitro'r sefyllfa yn ne-ddwyrain Lloegr yn agos ac yn asesu'n rheolaidd lefel y risg sy'n ein hwynebu. Er nad yw Feirws y Tafod Glas (BTV) yn peri unrhyw risg i iechyd pobl, gall effeithio’n sylweddol ar iechyd da byw a masnach ac mae'n bwysig ein bod yn cymryd camau rhagweithiol i atal cyflwyno anifeiliaid yr effeithir arnynt i fuchesi Cymru. Ar hyn o bryd, gwaharddir symudiadau anifeiliaid byw o fewn y Parth Rheoli Dros Dro (TCZ) i Gymru.

O ganlyniad i achosion wedi'u cadarnhau o BTV-3 yn Ewrop, ni ellir mewnforio defaid na gwartheg byw o'r Iseldiroedd, Gwlad Belg na'r Almaen i Brydain bellach. Mae profion ôl-fewnforio BTV hefyd yn digwydd ar bob anifail agored i niwed o wledydd risg uchel.

Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda'n cymheiriaid ym Mhrydain i ddiweddaru ein strategaeth rheoli BTV a sicrhau bod ein polisi trwyddedau a mewnforion yn parhau i adlewyrchu'r sefyllfa bresennol. Rwy'n ddiolchgar am ein cydweithrediad â'r Grŵp Iechyd a Lles Anifeiliaid sy'n Cnoi Cil a'n hundebau ffermio i godi ymwybyddiaeth ymhlith ceidwaid o'r clefyd hwn a'r ystyriaethau sy'n gysylltiedig â mewnforio anifeiliaid sy'n gallu dal y clefyd.