A wnaiff Comisiwn y Senedd ddarparu dadansoddiad llawn o'r gost a ragwelir yn y dyfodol o ddarparu cynhyrchion misglwyf yn y toiledau yn y Senedd ac adeiladau eraill ar ystad y Senedd, a'r gyllideb ar gyfer y cynllun hwn?
Y costau ar gyfer y flwyddyn gyntaf o ddarparu cynhyrchion mislif am ddim mewn toiledau ar ystad y Senedd yw £3,793.09. Mae cost y gwasanaeth yn cael ei ariannu o'r arbediad o £5,000 a gyflawnwyd drwy gael gwared ar y peiriannau gwerthu cynnyrch mislif.
Gan ei fod yn wasanaeth am ddim yn ardaloedd y Comisiwn ac ardaloedd cyhoeddus ar ystad y Senedd, sy’n amrywio mewn ymateb i’r defnydd o fewn ardaloedd staff ac ardaloedd cyhoeddus yn ôl nifer yr ymwelwyr, mae’n anodd darparu amcangyfrif cywir ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, yn seiliedig ar gostau’r flwyddyn gyntaf ac os yw’r defnydd yn y dyfodol yn debyg, disgwylir i’r costau disgwyliedig ar gyfer y flwyddyn nesaf fod oddeutu £4,200 y flwyddyn. Bydd y costau’n parhau i gael eu gwrthbwyso gan yr arbedion a wireddwyd o gael gwared ar y peiriannau gwerthu ar brydles nad oes eu hangen mwyach. Byddwn yn parhau i fonitro defnydd a stoc yn agos dros y flwyddyn nesaf.
Gellir rhannu’r costau ar gyfer y flwyddyn nesaf, gyda defnydd tebyg a rhywfaint o arian wrth gefn, fel a ganlyn:
- prynu stoc - tua £2,600
- rhentu biniau cynnyrch mislif ychwanegol – tua £1,400
- cost gweinyddu - £152