WQ90017 (e) Wedi’i gyflwyno ar 04/12/2023

A wnaiff Comisiwn y Senedd ddarparu dadansoddiad llawn o gyfanswm y gost hyd yma am gynhyrchion misglwyf a ddarperir yn y toiledau yn y Senedd ac adeiladau eraill ar ystad y Senedd?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 20/12/2023

Hyd yma mae cynhyrchion mislif am ddim wedi cael eu darparu ar ystad y Senedd ers 12 mis mewn ymateb i gynnig gan gydweithwyr ar Ochr yr Undebau Llafur i hyrwyddo urddas mislif ledled Cymru. 

Ar hyn o bryd mae cost y gwasanaeth yn cael ei ariannu o’r arbediad o £5,000 a gyflawnwyd drwy gael gwared ar y peiriannau gwerthu cynnyrch mislif a oedd gynt ar brydles. Mae’r defnydd presennol yn is na’r gost flaenorol o brydlesu’r peiriannau gwerthu.

Cost darparu’r gwasanaeth hyd yma yw £3,793.09. Mae hyn yn cynnwys prynu stoc am £2,406.05, rhentu biniau cynnyrch mislif ychwanegol am £1,235.04, a chost weinyddol o £152 i’r contractwr glanhau allanol sy’n rheoli’r ddarpariaeth ac yn ailgyflenwi cynhyrchion ar draws yr ystâd. 

Nid yw’r gost yn cynnwys y stoc sy’n weddill a gedwir ar y safle i’w ddefnyddio yn y dyfodol (dim ond ar ôl ei ddefnyddio y codir tâl ar y Senedd am stoc). Bydd y Comisiwn yn parhau i fonitro costau’r gwasanaeth hwn yn weithredol dros y flwyddyn nesaf yn seiliedig ar y defnydd, gan gynnwys nifer yr ymwelwyr â’r ystad, a darparu cyflenwadau.