WQ89923 (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/11/2023

Beth yw'r gost flynyddol o gynnal Senedd Ieuenctid Cymru, o ran amser staff ac ymrwymiadau ariannol?

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar 06/12/2023

Mae Senedd Ieuenctid Cymru (SIC) yn rhoi cyfle i bobl ifanc i gyfrannu at drafodaethau sydd o bwys iddyn nhw. Yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o'r materion sy'n bwysig i bobl ifanc yng Nghymru a'u trafod, mae Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru hefyd yn cyfrannu at Fusnes y Senedd mewn gwahanol ffyrdd.

Mae hyn wedi cynnwys cymryd rhan mewn grŵp ffocws gyda'r Pwyllgor Cyllid i graffu ar Gyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru (23-24), a chyfrannodd dros 3,600 o bobl ifanc o bob rhan o Gymru at waith Pwyllgor Iechyd Meddwl a Llesiant y Senedd Ieuenctid, a lywiodd ganfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad.

Mae gan y Gwasanaethau Ymgysylltu ddau aelod o staff penodol ar gyfer y Senedd Ieuenctid (sef un amser llawn ac un rhan-amser). Mae’r costau cynnal blynyddol yn £60,000 mewn blwyddyn arferol ac yn £65,000 mewn blwyddyn etholiad.