WQ89686 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2023

Faint o arian sydd wedi’i wario ar yr agweddau o gynllun Seren sy’n cefnogi ac yn annog myfyrwyr i astudio mewn sefydliadau y tu allan i Gymru, yn hytrach na’r sefydliadau hynny sydd yng Nghymru sy’n rhan o’r cynllun, ers 2018?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg ac Addysg | Wedi'i ateb ar 30/11/2023

Mae Academi Seren yn cefnogi ac yn grymuso’r dysgwyr mwyaf galluog yng Nghymru i gael yr uchelgais, y gallu a'r chwilfrydedd i gyflawni eu potensial a rhagori yn eu nodau addysgol ar gyfer y dyfodol ar y lefel uchaf. Ers 2018, gwariwyd £1,168,103.02 ar gefnogi ein dysgwyr i ymgysylltu â phrifysgolion tariff uchel a'u paratoi ar gyfer y profion derbyn a'r ceisiadau sy’n ofynnol. Dyma 9% o gyfanswm cyllideb Seren.