WQ89685 (w) Wedi’i gyflwyno ar 20/11/2023

Faint o log mae Llywodraeth Cymru wedi’i dderbyn o fenthyciadau myfyrwyr ers i’r polisi cefnogi myfyrwyr presennol fod ar waith yn 2018?

Wedi'i ateb gan Gweinidog y Gymraeg ac Addysg | Wedi'i ateb ar 28/11/2023

Mae cyfrifon Llywodraeth Cymru yn cynnwys y llog a ychwanegwyd fel rhan o’r nodyn asedau ariannol – buddsoddiadau a benthyciadau. Mae’r wybodaeth wedi’i chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru o dan gyfrifon cyfunol blynyddol Llywodraeth Cymru.

Mae’r tabl isod yn crynhoi’r llog o 2018-19 i 2021-22. Nid yw’r cyfrifon ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23 wedi’u cyhoeddi eto.

 

Blwyddyn Ariannol

Incwm o log benthyciadau myfyrwyr

£m

Cyfrifon cyfunol Llywodraeth Cymru

 

2018-19

129

Nodyn 6 – Asedau Ariannol – Buddsoddiadau a Benthyciadau - Tudalen 98

2019-20

209

Nodyn 6 – Asedau Ariannol – Buddsoddiadau a Benthyciadau - Tudalen 122

2020-21

171

Nodyn 6 – Asedau Ariannol – Buddsoddiadau a Benthyciadau - Tudalen 202

2021-22

178

Nodyn 6 – Asedau Ariannol – Buddsoddiadau a Benthyciadau - Tudalen 229

Ffynhonnell: Cyfrifon cyfunol blynyddol Llywodraeth Cymru | LLYW.CYMRU